PROSIECT ADNEWYDDU SEILIFFON

Yn ôl yn 2002 prynais hen seiloffon a oedd wedi bod yn segur ers dros 20 mlynedd. Roedd mewn cyflwr difrifol!


Bellach nid oedd gwely yr offeryn yn wastad - roedd yn gostwng yn arw yn y canol - mor ddrwg fel nas gellir ei ddefnyddio.


Mae'n debyg mai offeryn gwastad oedd yn wrieddiol - gyda'r nodau naturiol a'r llonnodau yn gorwedd yn wastad - yn wahanol i offeryn modern gyda'r llonnodau yn uwch.

Fodd bynnag, ar rhyw amser mae rhywun wedi ei ail-osod a chreu dau dderbyniad pren newydd i'w addasu i'r math modern o offeryn


Roedd rhai o'r cyseinyddion wedi eu tolcio yn ddrwg a'r cyfan wedi ei drwsio gyda phlatiau alwminiwm mewn ymdrech i gryfhau'r uniadau yng ngwely y bariau nodau. Roedd y lacer wedi troi yn ddwl a gludiog dros y blynyddoedd.

Roedd 60 o gyseinyddion, yn cynnwys y rhai ffug, a'r rhain wedi rhybedu gyda'i gilydd. Ar ôl drilio roedd angen glanhau y cyfan, eu hail siapio, ail rybedu y cyfan yn ôl, ac yna paentio gyda Hammerite lliw efydd.

Gwaith mewn llaw, trawstiau derw newydd ar gyfer y gwely nodau a'r ffram wedi ei glanhau, ei chryfhau a paent preimio drosti.


Pennau derw newydd a'r ffram wedi cael chwistrelliad o baent. Cyseinyddion a nodau mewn lle.


Yn gysurus yn ei gartref newydd.


Dewi yn rhoi tro ar bethau.

 

Bywgraffiad - Rhestr Unawdau - Digwyddiadau - Offerynnau - Oriel - Ffyn - Disgiau - Lincs - Cysylltu
© Dewi Ellis Jones 2017